Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025

 

Pwyntiau Craffu Technegol 1, 2 a 3:                      Er nad yw’r cyfeiriadau anghywir na’r anghysondebau yn y testunau Cymraeg a Saesneg yn effeithio ar yr ystyron o sylwedd, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y pwyntiau a gwneir y cywiriadau a nodir yn y tabl yn yr ymateb hwn cyn gwneud y Rheoliadau.

                         

Pwynt Craffu Technegol 4:                                 Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2015 (OS 2015/1522), disgrifir yr holl symiau sy’n ddarostyngedig i uchafswm fel rhai sy’n ddarostyngedig i’r “cyfanswm uchaf” ac eithrio paragraff 9(b) sy’n ddarostyngedig i “uchafswm”. Mae i’r ddau ymadrodd yr un effaith gyfreithiol. Mae rheoliad 2ZA(4)(g) yn rhestru Rhan 2 o Atodlen 1 fel un sy’n ddarostyngedig i’r gofyniad yn rheoliad 2ZA(2) bod rhaid i ddogfen ffioedd a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru nodi swm y ffioedd sy’n daladwy o dan reoliad 2ZA(4). Mae’r olaf yn cynnwys y symiau ffioedd a grybwyllir yn is-baragraff (g), h.y., y rhai yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2015, sy’n cynnwys swm y ffioedd a grybwyllir ym mharagraff 9(b) o’r tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1. Yr effaith yw bod yr holl symiau a grybwyllir yn rheoliad 2ZA(4), gan gynnwys y swm ym mharagraff 9(b) o’r tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn rheoliad 2ZA(1) a (2) i gyhoeddi swm y ffioedd ar wefan.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y gellid gwneud y sefyllfa’n gliriach. Gwneir y cywiriadau a nodir yn y tabl yn yr ymateb hwn cyn gwneud y Rheoliadau.           

                       

Pwynt Craffu Technegol 5:                                 Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y pwynt, ac er bod y Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at y nifer perthnasol o hectarau, gwneir y cywiriadau a nodir yn y tabl yn yr ymateb hwn cyn gwneud y Rheoliadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt ychwanegol ond nid yw’n ystyried bod angen diwygio’r drafftio cyn i’r Rheoliadau gael eu gwneud am fod diwygio’r ffigurau yn Gymraeg o 2.5 i 1.2, yn lle 2.5 i 1.5, hefyd yn golygu diwygio ‘fwy na 2.5’ i ‘fwy nag 1.2’. Felly, ni ellir ychwanegu’r geiriau “pob cyfeiriad at” am resymau gramadegol.

 

 

 

 

 

 

Mân gywiriadau i’w gwneud cyn gwneud y Rheoliadau

 

CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025

The Town and Country Planning (Fees for Applications, Deemed Applications and Site Visits) (Wales) (Amendment) Regulations 2025

Yn rheoliad 2(3), caiff rheoliad newydd 2ZA(2)(e) ei ddiwygio fel y rhoddir “yn is-baragraffau (a), (c) a (d)” yn lle “ym mharagraffau (a), (c) a (d)”.

Yn rheoliad 2(3), caiff rheoliad newydd 2ZA(2)(e) ei ddiwygio fel y rhoddir “sub-paragraphs (a), (c) and (d)” yn lle “paragraphs (a), (c) and (d)”.

Dd/G

Yn rheoliad 2(3), caiff rheoliad newydd 2ZA(4)(g) ei ddiwygio fel y rhoddir “regulation 15(1)(a) and (b) (fees for applications made under planning condition) and Part 2 of Schedule 1 (scale of fees in respect of applications made or deemed to be made)” yn lle “regulation 15(1)(a) and (b) (fees for applications made under planning condition)”.

Caiff rheoliad 3(9)(e)(i) a (ii) ei ddiwygio fel y rhoddir “(i) ym mharagraff (a)” a “(ii) ym mharagraff (b)” yn lle “(i) yn is-baragraff (a)” a “(ii) yn is-baragraff (b)” yn y drefn honno.

Caiff rheoliad 3(9)(e)(i) a (ii) ei ddiwygio fel y rhoddir “(i) in paragraph (a)” a “(ii) in paragraph (b)” yn lle “(i) in sub-paragraph (a)” a “(ii) in sub-paragraph (b)” yn y drefn honno.

Bydd rheoliad 3(10)(c) yn cael ei ddiwygio fel bod “neu “uchafswm o”” yn cael ei fewnosod ar ôl y geiriau “cyfanswm uchaf o”.

Bydd rheoliad 3(10)(c) yn cael ei ddiwygio fel bod “or a maximum” yn cael ei fewnosod ar ôl y geiriau “maximum in total”.

Bydd rheoliad 4(2)(a) yn cael ei ddiwygio fel y rhoddir “1.2 hectar” yn lle “1.5 hectar”.

Dd/G

Bydd mân faterion fel fformatio a gwallau teipograffyddol yn cael eu cywiro, a bydd mân newidiadau yn cael eu gwneud i’r nodyn esboniadol a’r troednodiadau, cyn gwneud y Rheoliadau.